R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Leanne Wood (Canol De Cymru): Beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau bod disgyblion yn gadael ysgolion gyda sgiliau TG rhagorol? OAQ(4)0531(ESK)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu system gategoreiddionewydd ar gyfer ysgolion? OAQ(4)0532(ESK)
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i foderneiddio ysgolion? OAQ(4)0534(ESK)W
4. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o wahaniaethau mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr? OAQ(4)0539(ESK)W
5. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Lwybrau Dysgu 14-19? OAQ(4)0542(ESK)W
6. Gwyn Price (Islwyn): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud mewn perthynas â lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol? OAQ(4)0529(ESK)
7. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen Trawsnewid Ein Cymunedau Prifysgol Caerdydd? OAQ(4)0538(ESK)
8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg gynradd cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)0533(ESK)W
9. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gydweithio rhwng ysgolion uwchradd? OAQ(4)0537(ESK)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa ystyriaeth a roddir i anghenion addysgol arbennig yn y system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion? OAQ(4)0541(ESK)
11. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg bellach yng Nghastell-nedd? OAQ(4)0527(ESK)
12. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Faint o ddosbarthiadau ysgolion cynradd sydd â mwy na’r uchafswm statudol o 30 o ddisgyblion? OAQ(4)0530(ESK)
13. Sandy Mewies (Delyn): Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru? OAQ(4)0540(ESK)
14. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fanteision symud i system drydyddol ar gyfer addysg ôl-16 yng Nghymru? OAQ(4)0528(ESK)
15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd marcio TGAU yng Nghymru? OAQ(4)0526(ES)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau trên rhwng Aberystwyth a'r Amwythig? OAQ(4)0517(EST)W
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ(4)0529(EST)
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dwristiaeth ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OAQ(4)0530(EST)
4. Sandy Mewies (Delyn): A yw'r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Mersey Rail am faterion sy'n ymwneud â theithwyr yn yr ardal o amgylch ffin gogledd Cymru? OAQ(4)0524(EST)
5. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau y gall menywod wneud y gorau o'u cyfraniad i economi Cymru? OAQ(4)0528(EST)
6. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ganolfannau ymchwil ychwanegu at dwf economaidd? OAQ(4)0525(EST)
7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen waith ar gyfer y gwaith ffordd sy'n effeithio ar yr A55 yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0522(EST)
8. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu allbwn economaidd Sir Benfro? OAQ(4)0515(EST)
9. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddatblygu economaidd yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0518(EST)
10. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y bydd Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 yn cefnogi canolbarth Cymru? OAQ(4)0516(EST)
11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant seilwaith ffyrdd arfaethedig Llywodraeth Cymru yn Sir Gaerfyrddin? OAQ(4)0523(EST)
12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)0527(EST)
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at weithredu'r cynllun gweithredu ar dwristiaeth cred? OAQ(4)0514(EST)
14. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw'r canlyniadau sydd wedi deillio o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2014 hyd yma? OAQ(4)0520(EST)
15. Gwenda Thomas (Castell-nedd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a ddarperir i fusnesau newydd bach yng Nghymru? OAQ(4)0531(EST)